Gweithgaredd 1: Deall yr ystyr
Efallai fod rhai geiriau dieithr i chi yma. Cliciwch ar y blychau melyn i weld ystyr y gair.
Rai dyddiau ar ôl dechrau’r flwyddyn
daw hi’n amser i dynnu i lawr y celyn
a dodi’r Nadolig a fu mewn bocsys
a’i gario i fyny’r atig.
Daeth eto heibio yr hen ddefod honno
o blygu lliwiau a rhoi addurniadau
y llawenhau a fu yn ôl yn eu llefydd.
Ac yno dan do y tŷ
y mae rhywun yn taro
ar ddarnau o Nadoligau a fu
sy’n dal yn yr atig o hyd.
Y mae yma Action Man
o hyd yn arwrol, yn ddarn o blentyndod
na ddaw byth yn ei ôl.
Y mae yma Donka, lorri
o hyd yn gryf a heb ei thorri
trwy’r holl haldio a fu arni.
Y mae yma goetj, mae yma ddoli
y bu’r gofal amdani’n dyner
dro byd, dro byd yn ôl.
A daw rhywun i lawr o’r atig
ag atgofion sy’n tywynnu gan lawenydd byd a fu,
a hwnnw yn gymysg â rhywbeth prudd
am bethau, am byth, a aeth heibio.
Gwyn Thomas