Gweithgaredd 3: Ailadrodd i bwrpas
Araith John, Act 2, Golygfa II (tud 51)
Fel y gŵyr pawb, sylfaen cadarnaf heddwch ydi nerth arfog. Yn awr y mae’n ffaith – ffaith anffodus, ond ffaith er hynny – na all pobol ddim ymddiried yn ei gilydd. Y mae gennym ni ormod o brawf yn y ganrif hon o’r galanastra a all ddilyn gormod o hyder gan ddyn yn ei gyd-ddyn. Nid byd delfrydol ydi hwn, gyfeillion, ac y mae’n rhaid inni wynebu hynny. Mae yna ddion o bobol sy’n barod i ormesu, ond iddyn nhw gael y cyfle. Rhaid i’r wlad hon fod yn barod i wynebu unrhyw ormeswr all ddod. Mae yna ddigon o fygwth, mi wyddoch hynny cystal â minnau, ond lle mae ’na nerth i amddiffyn rhag y bygwth mae yna ddiogelwch. Am hynny y mae’n rhaid inni wrth arfau, y mae’n rhaid inni wario ar berffeithio a moderneiddio ein harfogaeth. Gwario i fyw yr ydym ni yn hyn o beth a gwario ar arfau er mwyn peidio â gorfod eu defnyddio. Yr ydym ni’n prynu bywydau ein plant â’r arfau hyn. A ydy’r pris yn ormod?
- Darllenwch yr araith uchod yn ofalus a sylwch ar nodweddion arddull rethregol.
- Tanlinellwch esiamplau o eiriau sy’n cael eu hailadrodd ac o batrymau sy’n cael eu hailadrodd.

Gan ddilyn yr un math o batrwm, ewch ati i lunio araith yn rhoi’r gwrth-ddadleuon, gan ddechrau gyda’r geiriau:
“Fel y gŵyr pawb, sylfaen cadarnaf heddwch ydi nerth ddiarfog …”