Gweithgaredd 1: Geiriau lluosog
Ar ddiwedd y paragraff cyntaf, gwelwn y dyfyniad hwn:
‘Y mae cerrrig llyfnion yn bentyrrau ar ben y traeth yn y fan yma.’
Mae Gwyn Thomas yn defnyddio’r ansoddair lluosog ‘llyfnion’, gan fod yr enw ‘cerrrig’ yn lluosog.
Wrth ddisgrifio enwau lluosog, mae rhai ansoddeiriau’n cael eu defnyddio’n lluosog hefyd e.e.
- gwyn > gwynion
- gwyrdd > gwyrddion
- melyn > melynion
- du > duon
- glas > gleision
Ceisiwch ddod o hyd i ffurf luosog yr ansoddeiriau isod a’u teipio yn y blwch:
- Unigol
- bychan
- hir
- dall
- tlawd
- Lluosog