Gweithgaredd 2: Cymharu ansoddeiriau
Mae Bendigeidfran yn ceisio gwneud yn iawn i Fatholwch wedi i Efnisien ddinistrio ei feirch drwy roi anrhegion drudfawr ato; sef:
- ‘ffon arian (cyn dewed â’i fys bach ac mor hir â fo’i hun)’
- ‘plât aur mor llydan â’i wyneb’
Gwelwn sut y mae adroddwr y stori yn disgrifio’r ffon arian a’r plât aur drwy dynnu cymariaethau â rhannau o gorff Matholwch.
Er mwyn i gymhariaeth fod yn effeithiol, mae’n rhaid i un elfen o’r gymhariaeth fod yn rhywbeth cyfarwydd i ni.
Wrth ddweud fod y ffon ‘cyn dewed â’i fys bach’, mae Matholwch yn gallu dychmygu’n union beth yw trwch y ffon er nad yw wedi gweld y ffon erioed o’r blaen.
Yn Gymraeg, mae’r ffurf ‘cyn … â’ a ‘mor … â’ yn cymharu dau beth.
Dyma’r ddau batrwm:
cyn + modd cyfartal yr ansoddair + â
mor + modd cysefin yr ansoddair + â
- Gradd Gysefin
- pell
- llydan
- byr
- caled
- anodd
- du
- hapus
- dwfn
- trist
- creulon
- Gradd Gyfartal
- pelled
- lleted
- byrred
- caleted
- anodded
- dued
- hapused
- dyfned
- tristed
- creuloned
- Ar ôl ‘mor’
- mor bell
- mor llydan
- mor fyr
- mor galed
- mor anodd
- mor ddu
- mor hapus
- mor ddwfn
- mor drist
- mor greulon
- Ar ôl ‘cyn’
- cyn belled
- cyn lleted
- cyn fyrred
- cyn galeted
- cyn anodded
- cyn ddued
- cyn hapused
- cyn ddyfned
- cyn dristed
- cyn greuloned