Gweithgaredd 2: Cyffelybiaeth, cymhariaeth a throsiad
Un o nodweddion Yr Wylan, fel holl waith Dafydd ap Gwilym, yw’r modd y mae’n gallu dod â’r darlun yn fyw i ni drwy dynnu cyffelybiaeth neu gymhariaeth a thrwy drosiad.
1. Chwiliwch am y llinellau sy’n cyfateb i’r disgrifiadau isod. Cliciwch y blwch i wirio eich ateb
- Dywed fod yr wylan yr un lliw â’r eira neu yr un lliw a’r lleuad
- Dywed ei bod hi fel lili’r môr.
- Dywed ei bod hi fel llythyr.
- Dywed ei bod hi fel lleian.
2. Edrychwch ar y lluniau hyn.
Lluniwch dri disgrifiad ar gyfer pob un gan ddefnyddio naill ai trosiadau, cymhariaethau neu gyffelybiaethau.


