Taliesin ac Aneirin - CA5


Gweithgaredd 2: Gwaith Argoed Llwyfain

Llusgwch y sylw at y rhif cywir.


Mae’r rhifau’n cyfeirio at linellau’r gerdd.


	Gwaith Argoed Llwyfain. Canu Urien
	
		Y bore Dyw Sadwrn, cad fawr a fu
		o’r pan ddwyre haul hyd pan gynnu.
		Dygrysiwys Fflamddwyn yn bedwar llu;
		Goddau a Rheged yn ymddullu.
	5	Dyfyn o Argoed hyd Arfynydd —
		ni cheffynt eirios hyd yr un dydd.
		Adorelwis Fflamddwyn, fawr drybestawd,
		‘A ddoddynt fyg ngwystlon, a ŷnt barawd?’
		Ys atebwys Owain, dwyrain ffosawd,
	10	‘Ni ddoddynt, nid ydynt, nid ŷnt barawd;
		a chenau Coel, byddai gymwyawg
		lew cyn as talai o wystl nebawd.’
		Adorelwis Urien, udd Erechwydd,
		‘O bydd ymgyfarfod am gerennydd
	15	dyrchafwn eidioedd odduch mynydd
		ac amborthwn wyneb odduch ymyl
		a dyrchafwn beleidr odduch pen gwŷr,
		a chyrchwn Fflamddwyn yn ei luydd
		a lladdwn ac ef a’i gyweithydd!’
	20		Rhag Argoed Llwyfain
			bu llawer celain;
			   rhuddai frain ryfelwyr.
			A gwerin a grysiwys gan hynefydd:
			armâf i flwyddyn nad wy cynnydd.
		
  • YSTYR
  • Ystyr y gair cyntaf yw brwydr
  • Daw’r enw hwn o enw duw Rhufeinig
  • Esiampl o drefn ‘annormal’ mewn brawddeg
  • 3ydd unigol presennol y ferf ‘dwyrain’
  • Berf sy’n golygu brysio/rhuthro/cyrchu/ymosod
  • Enw priod cyfansawdd
  • Gair wedi ei ffurfio o air sy’n golygu ‘rhes’ + rhagddodiad o’i flaen
  • Amrywiad ar y gair ‘aros’.
  • ‘bloeddiodd’
  • Berf gyda dau ragddodiad cadarnhaol
  • Ymadrodd ansoddeiriol sy’n golygu ‘ymffrost mawr’
  • Araith uniongyrchol
  • benthyciad o’r Lladin yn golygu ‘ffos’ neu ‘glawdd’
  • Odl Wyddelig
  • ‘Ynghylch perthynas heddychlon’
  • 1af lluosog presennol/dyfodol y ferf ‘dyrchafu’
  • ‘ar ben’
  • Lluosog y gair ‘paladr’ yn golygu ‘ffon’ /‘gwaywffon’
  • Cyrff meirw
  • 3ydd unigol amherffaith berf sy’n golygu ‘cochi’
  • BETH SYDD YN Y GERDD
Da iawn, rydych wedi cwblhau’r gêm!

Gwirio