Traddodiad Barddol - CA5


Gweithgaredd 1: Yr acen

Cyn y gallwn ni ddysgu’n iawn am y cynganeddion, mae’n rhaid i ni ddeall ble mae ‘acen’ gair ac ‘acen’ llinell.

Yr ‘acen’ yw’r term a ddefnyddiwn i gyfeirio at y rhan o air neu linell sy’n cael pwyslais arbennig wrth ei dweud.

Fel arfer, yn Gymraeg, mae’r ‘acen’ yn dod ar y sillaf olaf ond un.
D.S. y gair twt am y ‘sillaf olaf ond un’ yw ‘goben’.

Wrth ddweud y gair ‘Abertawe’ yn uchel, fel sylwch eich bod yn rhoi’r pwyslais ar yr ‘aw’. Mae’r acen felly ar yr ‘aw’.

Abertawe

Wrth ddweud y gair ‘Caerdydd’ yn uchel, fel sylwch eich bod yn rhoi’r pwyslais ar yr ‘ydd’. Mae’r acen felly ar yr ‘ydd’.

Caerdydd

Cliciwch ar y geiriau isod lle y tybiwch chi mae’r acen.

  • amynedd
  • moroedd
  • peiriant
  • ansoddair
  • parhau
  • bore
  • eiliad
  • eiliadau
  • trwmped
  • ysgrifen
Da iawn, rydych wedi cwblhau’r gêm!