Gweithgaredd 2: Yr acen 2
Wrth roi geiriau at ei gilydd mewn cymalau, mae’r brif acen fel arfer yn symud i orffwys ar un rhan o’r cymal.
E.e wrth roi ‘amynedd’ gydag ‘arbennig’: ‘amynedd arbennig’, mae’r brif acen yn gorffwys ar ‘en’:
amynedd arbennig
Dafydd / Gwilym: ond Dafydd ap Gwilym
Teithio / Caerfyrddin: ond Teithio i Gaerfyrddin
Sglodion / Selsig: ond sglodion a selsig
Cliciwch ar y geiriau isod lle y tybiwch chi mae’r acen.
- Mae’n fore hydrefol
- Casglu gwymon
- Mynnu mwynhau
- Dringo’r grisiau
- Ennill tystysgrif
- Hedfan i Jamaica
- Trwsio tractor
- Bwrw glaw
- Bwyta siocled