Gweithgaredd 4: Cynghanedd draws
Er mwyn creu cynghanedd draws:
- Mae’n rhaid sicrhau bod patrwm rhan gyntaf y llinell, o ran lle mae’r cytseiniaid yn ymddangos o gwmpas yr acen, yn cael ei ailadrodd yn yr union yr un drefn ar ddiwedd ail ran y llinell.
- OND mae modd anwybyddu’r cytseiniaid ar ddechrau ail ran y llinell (yn union wedi’r orffwysfa) a chroesi ar draws y rhan honno. Mae’r darn ry’n ni wedi ei anwybyddu mewn cromfachau isod.
D.S. ‘Gorffwysfa’ yw’r man lle mae ‘r llinell yn torri’n naturiol.
Fel hyn:
I'n herio | ac i’n harwain: n h ACEN r | ( c ) n h ACEN r
Feawn, | dim ond am fuunud: f ACEN n | (d m n d m) f ACEN n
- Yn seren
- Rhoi i addysg
- Falle
- Mae un
- Mae’n rhaid
Da iawn, rydych wedi cwblhau’r gêm!
Gwirio