Gweithgaredd 2: Negydd y ferf
Dadfeilio
‘Y mae fy mab yn deall digon
I weld arwr yn dadfeilio:
Dydi o ddim wedi ei blesio.’
Yn y dyfyniad hwn o 'Dydi Arwr Ddim yn Marw' gan Gwyn Thomas, gwelwn y ferf ‘dadfeilio’. Mae’n cyfleu i’r dim y broses yr aeth Elvis drwyddi o syrthio o berffeithrwydd i amherffeithrwydd. Yma, mae’r rhagddodiad negyddol ‘dad’ yn pwysleisio’r dirywiad.
Weithiau, wrth reswm, mae’r negydd ‘dad’ yn gallu bod yn adeiladol a chadarnhaol os yw e’n gweithio gyda rhywbeth sydd ynddo’i hun yn negyddol, e.e. ‘blino’, ‘dadflino’.
Sylwch sut y mae’r rhagddodiad ‘dad’ yn achosi treiglad: ‘blino’ ➔ ’dad-flino’.
Tasg 1
Ychwanegwch dad/dat at y berfau isod a ffurfiwch ferf newydd
Tasg 2
Nodwch gyfieithiad yn y drydedd golofn
- Berf
- gwneud
- ansoddi
- sefydlu
- blino
- Berf
- canoli
- plygu
- profi
- comisiynu
- + dad
- + dat
- Cyfieithiad i’r Saesneg
- Cyfieithiad i’r Saesneg
Tasg 3
Darllenwch gerddi Gwyn Thomas: 'Dad-ddynoli, y Waith Gyntaf' a 'Dad-ddynoli yr Ail Waith'.
Thomas, G. (2007), Teyrnas Tywyllwch, Barddas: Llandybïe 55-59