1936
2 Medi – Ganwyd yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog. Y cartref oedd Tŷ Capel Carmel, sef Capel yr Annibynwyr yn Nhanygrisiau.
Ei dad oedd Edward Christmas Thomas (Ted). Un o’i jôcs oedd bod ganddo “Father Christmas” drwy’r flwyddyn! Pobydd oedd e wrth ei waith.
Eluned (Jones cyn priodi) oedd enw ei fam. Athrawes ysgol gynradd oedd hi, er mai gwaith llanw a wnaeth yn ystod magwraeth Gwyn. Roedd hi hefyd yn organyddes yn y capel.
Roedd ei daid ar ochr ei fam (John Jones) yn arfer gweithio fel gof chwarel ac yn byw gyda nhw. Roedd e’n flaenor yn y capel.
Unig blentyn oedd Gwyn Thomas: “Yn fabi roeddwn i’n un o’r bloeddwyr beunosol mwyaf effro a welodd Ynys Prydain...”
1939
Y teulu’n symud o Danygrisiau i Flaenau Ffestiniog – “Fe ddar’u ni – Nhad, Mam, Taid, Twm y gath a minnau – fudo, â’n dodrefn ar lorri i Wuns Rôd;” – i rif 106 Wynne Rd. Tŷ ar rent.
Teulu ei fam oedd yn byw yn Nhanygrisiau, a theulu ei dad o Flaenau. Cafodd ei dad ei fagu yn y Meirion Hotel.
Roedd ei dad bellach yn gweithio yn y becws yn y siop fwyd – y Coparét. Enw’r ardal o fewn Blaenau oedd Maenofferen (roedd capel Methodistaidd yno yn rhoi enw ar yr ardal).
I gapel Carmel, Tanygrisiau yr oedd yn mynd iddo tan iddyn nhw symud. Wedyn i Gapel yr Annibynwyr, Jerusalem.
Roedd dwy festri – “un fawr ar gyfer y Band of Hope a chyflwyno dramâu a dangos sleidiau efo hyd-lusern (‘majiclantar’ ar lafar), a festri lai yn y cefn ar gyfer y Seiat a’r Cyfarfod Gweddi a’r Gymdeithas Ddiwylliadol.”
1942
Pan oedd yn nosbarth Miss Evans yn Ysgol Maenofferen, ac yntau tua 6 oed, bu farw ffrind iddo o’r enw Cecil Davies. Cafodd hyn effaith arno, ac yntau ddim yn deall ystyr ‘marw’ go iawn ar y pryd. Bu yn ymweld â mam Cecil gyda blodau o’r ysgol, a chafodd ei wahodd i weld y corff. “Yna mi es i yn fy ôl i’r ysgol, yn methu deall pethau.”
1943
Roedd y rhyfel yn effeithio ar Flaenau Ffestiniog fel pob man arall, yn arbennig wrth i frodyr hŷn rhai o’i ffrindiau a’i gydnabod, gael eu lladd.
Yn y pictiwrs - drwy Gaumont British News a Pathe News, y cyrhaeddai lluniau o’r brwydro. Byddai ffilmiau deng munud yn cael eu dangos yn canolbwyntio ar y brwydro, ar bropaganda ac ar “y llanast dynol oedd yno”.
Roedd tri lle pictiwrs i gyd: - Empire (Remp) ar y Stryd Fawr; Forum - ar gongl y parc chwarae; a Pharc Sinema (Parc Sun) - adeilad o sinc gwyrdd. Mae’r ddau olaf wedi eu dymchwel.
Roedd rhai pobl â rhagfarn yn erbyn y sinema, yn arbennig J.S. Jones, prifathro’r ysgol elfennol (gynradd). Roedd eraill, fel ei deulu (yn cynnwys ei daid), heb farn naill ffordd na’r llall.
Bu’r pictiwrs a’r ffilmiau yn ddylanwad mawr ar fywyd a gwaith Gwyn Thomas.
Roedd gwersyll milwrol yn Nhrawsfynydd – ac felly fe ddeuai nifer o filwyr i’r sinemâu yma.
Roedd pob math o ffilmiau ar gael, rhai Americanaidd neu Eingl – gan gynnwys cowbois, Batman a Flash Gordon, Draciwla a Tarzan, Abbot a Costello, Laurel a Hardy, ac wedyn rhai Walt Disney.
1944
Mynd i’r ysgol elfennol (gynradd) – gyda’r nod o baratoi at yr Ysgoloriaeth i gael mynd i’r Ysgol Ramadeg.
Pwyslais mawr ar Gymraeg, Saesneg a Syms! Algebra yn rhan o hyn!
1945
Symudodd y teulu pan oedd Gwyn Thomas yn naw oed, o 106 Wuns Rôd i 1 Benar View, ym mhen arall Blaenau Ffestiniog. Benthyg arian i brynu tŷ a wnaed. Tŷ tri llawr gyda seler.
Y cymdogion yn Wuns Rôd oedd teulu o’r de. Roedd y wraig – Beti Davies – yn seicig, sy’n esbonio sut cafodd Gwyn Thomas ddiddordeb yn y maes hwn.
Ond roedd y capel yn chwarae rhan flaenllaw yn ei fywyd cynnar.
Dyma’r cyfnod pan fyddai’n mynd i gwpwrdd llyfrau ei daid. Roedd ei daid yn darllen llyfrau diwinyddol, wythnosolion crefyddol fel Y Tyst a’r Dysgedydd.
Mae’n nodi hefyd yn ei hunangofiant Bywyd Bach, “Un o gymwynasau mawr Owen M. Edwards i bobol fel fy Nhaid oedd llyfrau Cyfres y Fil a’r Cymru Coch.”
Mae’n amlwg fod yr awydd i ddarllen wedi cydio ynddo’n ifanc iawn.
Roedd dylanwad ei daid arno’n drwm. Mae’n nodi ei fod yn cofio ei daid yn ennill am gerdd i Gaban Hen Bobol yn y Blaenau. Dyma ŵr hefyd a oedd yn “adnabod Hedd Wyn, yn gwybod yn dda am Michael D. Jones ac Ap Fychan”.
Yn 9 oed dechreuodd Gwyn Thomas ar arfer o ddarllen 30 o adnodau’r Beibl bob dydd – a hynny yn arwain at gynyddu ei eirfa a miniogi ei deimlad at rythmau iaith.
Cafodd diwedd y rhyfel a rhyddhau gwybodaeth am y gwersylloedd arteithio yn Ewrop - sef erchyllterau'r Holocost, effaith fawr ar Gwyn Thomas a’i genhedlaeth. Mae’n dadlau bod yr Holocost yn dangos maint drygioni dyn ac fel mae’n ‘ofni’ sut mae modd i’r unigolyn ddisgyn i’r fath lefel o ymddygiad. Dyna pam mae’n barod i farnu a holi'r hunan yn ei waith.
Ym mis Rhagfyr bu farw ei daid (John Jones – tad ei fam) a’i gladdu ym mynwent Pen y Cefn, Trawsfynydd. Roedd ei nain wedi marw cyn ei eni, yn 1928. Bu’r gŵr yma yn ddylanwad mawr arno yn ystod ei blentyndod.
1946
Tua’r cyfnod hyn prynodd ei dad fusnes becar - hen fusnes Jôs Bach yn Stryd Dorfil. Bu Gwyn Thomas yn helpu ei dad yn y becws o hyn allan, pan oedd cyfle, yn arbennig ar Sadyrnau. Tyfodd y busnes gan sefydlu rownd fara hefyd.
Roedd yr Ysgol Sul yn chwarae rhan bwysig iawn yn ei ddatblygiad, lle roedd yr athrawon yn trafod straeon y Beibl, ond hefyd yn trafod digwyddiadau’r dydd a hanes Twtancamŵn a brenhinoedd yr Aifft. Fe chwaraeodd y straeon yma ran allweddol yn ei ddatblygiad fel llenor ac ysgolhaig.
“Yn blant yr Ysgol Sul fe fyddem hefyd yn gorfod dysgu adnodau a meistroli storïau o’r Beibl bob blwyddyn i gael ein harholi arnynt: dyma ‘Yr Arholiad Llafar’.”
1947
Bob blwyddyn cyn y Gymanfa , byddai gorymdaith o gwmpas Blaenau, gyda phob Ysgol Sul yn cario baner fawr, yn debyg i aelodau o undebau llafur. Byddai pob plentyn yn gwisgo rhoséd neu fedal hefyd. Mae’n disgrifio’r cyfan “yn garnifal lliwgar, gorfoleddus, a buddugoliaethus”.
Digwyddiad arall o bwys oedd Te Parti plant yr Ysgol Sul.
Yn rhan o hyn (yn answyddogol) roedd gwylio moch yn cael eu lladd yn y lladd-dy, y tu ôl i wal ffin cefn Capel Jerusalem.
Cafwyd eira trwm iawn yn y flwyddyn hon – ac roedd pob man wedi’i gloi am wythnosau lawer. Er hyn, roedd wrth ei fodd yn mynd ar sled.
Dyma flwyddyn canlyniad yr Ysgoloriaeth – “Roeddwn i wrth giât yr ysgol pan welais J.S. yn cerdded i fyny’r allt tuag ataf. Hanner y ffordd i fyny amneidiodd arnaf, ac euthum innau i’w gyfarfod. ‘Rwyt ti’n gyntaf drwy’r sir; cer i ddweud wrth dy fam.’”
Cafodd ei brifathro – J.S. Jones ddylanwad mawr arno – dyn diwylliedig a oedd yn mynnu safon a gwaith caled.
1948
Roedd Gwyn Thomas yn Ysgol Ramadeg Ffestiniog bellach. Bu yn nhimau pêl-droed a chriced yr ysgol.
Dyma gyfnod datblygu dawn perfformio Gwyn Thomas wrth iddo ddod yn ddigon hen i gymryd rhan yn nramâu’r capel.
Roedd y radio yn chwarae rhan bwysig yn y cartref - a phawb yn trin a thrafod y rhaglen boblogaidd sef Noson Lawen gydag un o fechgyn yr ardal - Meredydd Evans - yn rhan ohoni.
Roedd mynd mawr ar eisteddfodau yn y cyfnod, gyda phob capel yn cynnal un. “Roeddwn i’n casáu cael fy ngorfodi i wneud unrhyw adrodd a chanu, a hynny gyda chas perffaith – roedd fy actio anaml yn fater arall oherwydd roedd gwisgo fel rhywun arall yn gwneud byd o wahaniaeth.”
Byddai hefyd yn mynd ar wyliau ’nôl i Danygrisiau at ei fodryb Anti Mâr (Mary). Roedd hi’n nyrs ond hefyd “yn un dda am stori ysbryd”. Hwyrach mai dyna ddechrau ei ddiddordeb mewn straeon felly.
1949
Roedd yn un o Gang Maenfferam erbyn hyn, sef criw o fechgyn a fyddai’n crwydro ac yn chwarae cowbois, marblis, concyrs, bachyn a phowl, ceffyl bach, botymau, topiau poteli, cyrcs, pêl-droed, criced, dringo yng Nghoed Cwmbowydd a chael eu hel o bob man.
Roedden nhw’n chwarae pêl-droed lle bynnag roedd yna le gwastad – Cae Fflat, Cae Oxford Street, yng nghefn tai gwag neu mewn adfeilion.
1950
Roedd y capel yn dal i fod yn bwysig iddo, ac yn aml ar nos Fercher y drefn oedd mynd i’r ‘pictiwrs’ am 5.00pm, am awr ac wedyn i’r capel - cwrdd gweddi neu seiat. Roedd Gwyn Thomas yn gweld y Gymraeg “yn ffitio’r ddau beth”.
Roedd y ffilmiau cowboi yn boblogaidd iawn, ac mae Gwyn Thomas yn cyfeirio at y ffilmiau yma fel ‘llenyddiaeth arwrol’, ac er mai Saesneg oedd iaith y ffilmiau, bydden nhw yn eu Cymreigio. Yn syml – roedd yna Ddynion Da a Dynion Drwg. Gwyn oedd lliw gwisg a cheffyl y ‘da’ at ei gilydd, a lliw du i’r rhai ‘drwg’. Yn aml caed stori garu – gyda’r ferch brydferth yn ennill calon y dyn da. Hon oedd y ‘Gŷl’.
1951
Roedd yn ymwybodol o le ei ardal yn hanes Cymru - o leoedd fel Fferm Bryn Cyfergyd - a enwir ym mhedwaredd gainc y Mabinogi - stori Lleu a Blodeuwedd, “chwedl fwyaf rhyfeddol o holl hen chwedlau Cymru,”. Roedd Gwyn Thomas yn agored iawn i’r math hwn o ddylanwad. “Pan ydych chwi’n mynd i nôl llefrith i le fel hyn rydych chi’n dod yn rhan o ryw hen, hen bethau sydd wedi cyfrannu at ein gwneud ni, Gymry, yr hyn ydym ni”.
1952
Bu’n cadw ieir – gyda help ei dad. Roedd am fynd yn ffermwr. Sylwodd ar y ffordd roedd ieir yn ymosod ar yr iâr wan o hyd: “Fersiwn o’r ‘bwlio’ sydd bellach, meddir, yn dra chyffredin oedd hyn, ac mae bwlio gyda’r math gwaethaf o ddrygioni yn fy marn i, lle y mae’r cryf yn cymryd mantais ar y gwan. Mae pob bwli’n haeddu cosb.”
Dyma flwyddyn sefyll ei arholiadau allanol cyntaf a llwyddo yn anrhydeddus. Mae’n amlwg y deuai gwaith ysgol yn hawdd iawn iddo.
Un o athrawon ifanc yr ysgol a oedd yn lletya drws nesa ond un i gartref Gwyn Thomas a’i deulu, oedd y cenedlaetholwr Dafydd Orwig. Er mai ardal o sosialwyr Cymraeg, cryf iawn, oedd Ffestiniog bryd hynny, daeth gwybodaeth am Blaid Cymru i mewn, a hynny drwy bobl fel Dafydd Orwig. Bu Gwyn Thomas yn ei helpu fwy nag unwaith.
1953
Yn y chweched - mae lluniau ohono yn cynrychioli'r ysgol yn nhîm pêl-droed a chriced yr ysgol.
Yn haf 1953 dechreuodd ei fam fynd yn sâl.
1954
14 Ionawr – bu farw ei gefnder Dave, a oedd yn briod ac wedi bod yn byw ar yr un stryd â theulu Gwyn Thomas. Aeth Dave yn weinidog i Geredigion. “Fe ddar’u ei farw ddweud yn arw ar Mam, a bu’n cyfeirio ato’n aml efo Nhad a minnau”.
24 Ionawr – dydd Sul, bu farw mam Gwyn Thomas “...ac, am y tro cyntaf yn fy mywyd, dyma ryw wylo ingol, y tu hwnt i unrhyw gysuro, yn cydio ynof am dipyn. Ar ôl hynny, wnes i ddim wylo wedyn.”
Daeth Gwyn Thomas yn ymwybodol fod ei fam wedi ei ‘dyrchafu’ o’r byd hwn i le gwell. Syniad a arhosodd gydag ef weddill ei fywyd.
Mis Awst - aeth i gynrychioli sir Feirionydd i Eisteddfod Genedlaethol yn Ystradgynlais. Tra oedd yno, bu farw ei fodryb Anti Winnie. Dechreuodd ysgrifennu cerddi ac ati - gan yn aml aros yn effro tan oriau mân y bore. “Sut y bu imi fynd trwy arholiadau ac ennill ysgoloriaethau dydw i ddim yn gwybod.”
Mis Hydref – dechrau yn y Brifysgol ym Mangor.
Lletya yn hostel dynion Neuadd Reichel ar Ffordd y Ffriddoedd.
Ymunodd â chymdeithasau gwahanol fel glas fyfyriwr - yn arbennig y Cymric - i’r Cymry Cymraeg. Bu’n rhan o berfformio, o ornestau dadlau a chael llawer o hwyl a gwneud ffrindiau lu.
Yn ‘Jimmy’s’ – cwt lle mae Morrisons heddiw, y cynhaliwyd dawnsfeydd, a rhai eraill yn Neuadd Pritchard Jones.
Astudiodd Gymraeg, Saesneg a Hanes yn ei flwyddyn gyntaf.
1955
Yn yr ail flwyddyn bu Gwyn Thomas yn astudio Cymraeg a Saesneg. Rhoddwyd pwyslais mawr ar ramadeg ac astudiaeth o iaith.
Y darlithydd ifanc a gafodd ddylanwad enfawr arno o ran llenyddiaeth y Gymraeg, oedd John Gwilym Jones. Ef oedd y cyntaf i gynnig cwrs ar ysgrifennu creadigol ym mhrifysgolion Prydain!
Mae’n nodi mor ffodus y bu yn ei ddarlithwyr - yr Athro J.E. Caerwyn Williams, Brinley Rees. Byddai hwnnw’n dod â chloc larwm i bob darlith ac ar ben yr awr - byddai’n dweud wrth i’r larwm ganu “‘Wn i ddim arwydd o beth yw hyn - ai amser i mi dewi, ynteu amser i chwi ddeffro’”. Yno hefyd roedd Enid Roberts ac R. Geraint Gruffydd.
1957
Graddiodd. Aeth ymlaen wedyn i ddilyn cwrs ymchwil ar Gweledigaethau y Bardd Cwsg – sef Ellis Wynne o’r Lasynys, dan gyfarwyddwyd yr Athro Caerwyn Williams a John Gwilym Jones.
Bu’n ysgrifennydd Cymdeithas y Cymric ac yn isolygydd papur y myfyrwyr ym Mangor – sef Y Dyfodol.
1958
Gorffen ei waith ymchwil ar Ellis Wynne a gwneud cais am waith ymchwil pellach ar gyfer gradd doethuriaeth.
1959
Ennill Cymrodoriaeth Prifysgol Cymru i fynd i Rydychen i wneud gwaith ar ‘Y Traddodiad Barddol yng Ngogledd Cymru yn yr Ail Ganrif ar Bymtheg’ o dan gyfarwyddyd yr Athro Idris Ll. Foster.
Aeth yno gyda Bruce Griffiths, a oedd wedi bod yn astudio yno ers tair blynedd.
Ymunodd â Chymdeithas Dafydd ap Gwilym – cymdeithas i ddynion yn unig yn y cyfnod hwnnw!
Roedd cymdeithas arall hefyd i’r Cymry – sef y ‘Welsh Forum’. Bu Gwyn Thomas yn diwtor y Gymraeg i’r gymdeithas hon.
1961
Cychwynnodd ar swydd athro yn dysgu Cymraeg a Saesneg yn ei hen ysgol ym Mlaenau Ffestiniog.
1962
Cyhoeddi ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth – sef Chwerwder yn y Ffynhonnau (Gwasg Gee).
1963
Cael ei benodi yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor.
1964
Priodi â Jennifer Roberts, merch o Flaenau Ffestiniog.
1965
Cyhoeddi’r gyfrol Y Weledigaeth Haearn (Gwasg Gee) – barddoniaeth.
1967
Cyhoeddi Ysgyrion Gwaed (Gwasg Gee) – barddoniaeth.
1969
Cyhoeddi Lliw’r Delyn (Gwasg y Moresg) – drama.
Cyhoeddi cyfieithiad – Diweddgan – drama Samuel Beckett (Gwasg Prifysgol Cymru).
1970
Cyhoeddi Yr Aelwyd Hon – astudiaeth o waith y Cynfeirdd – ysgolheictod.
1971
Cyhoeddi Y Bardd Cwsg a’i gefndir. Astudiaeth o waith Ellis Wynne – ysgolheictod.
1972
Cyhoeddi Enw’r Gair (Gwasg Gee) – barddoniaeth.
Cyhoeddi Amser Dyn (Gwasg Gee) – drama.
1973
Cyhoeddi Presenting Saunders Lewis – cyd-olygydd – ysgolheictod.
1975
Cyhoeddi Y Pethau Diwethaf a Phethau Eraill (Gwasg Gee) – barddoniaeth.
1976
Cyhoeddi Cadwynau yn y Meddwl (Gwasg Gee) – barddoniaeth.
Cyhoeddi Y Traddodiad Barddol (Gwasg Prifysgol Cymru) – ysgolheictod.
1977
Cyhoeddi Ymarfer Ysgrifennu – esboniad ac ymarferion gramadeg ac iaith.
1978
Cyhoeddi Croesi Traeth (Gwasg Gee) – barddoniaeth.
1981
Cyhoeddi Symud y Lliwiau (Gwasg Gee) – barddoniaeth.
1982
Cyhoeddi Gruffydd ab yr Ynad Coch – astudiaeth o farddoniaeth Gruffydd ab yr Ynad Coch – ysgolheictod.
1984
Cyhoeddi Wmgawa – (Gwasg Gee) – barddoniaeth.
Cyhoeddi diweddariad o Pedair Cainc y Mabinogi – ysgolheictod.
Cyhoeddi Tales from the Mabinogion – ar y cyd gyda Kevin Crossley-Holland.
1986
Cyhoeddi Am ryw Hyd (Gwasg Gee) – barddoniaeth.
1988
Cyhoeddi Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru) - ysgolheictod.
1989
Cyhoeddi Gwelaf Afon (Gwasg Gee) - barddoniaeth.
1992
Cyhoeddi Duwiau’r Celtiaid – Llyfrau Llafar Gwlad (Gwasg Carreg Gwalch) – ysgolheictod.
Cyhoeddi Chwedl Taliesin (Gwasg Prifysgol Cymru) – ysgolheictod.
1993
Cyhoeddi Anifeiliaid y Maes Hefyd, lluniau gan Ted Breeze Jones (Gwasg Dwyfor) – barddoniaeth.
1996
Cyhoeddi Y Dymestl –cyfieithiad o ddrama William Shakespeare (Gwasg Gee).
1998
Cyhoeddi Darllen y Meini (Gwasg Gee) – barddoniaeth.
2000
Cyhoeddi Gweddnewidio: Detholiad o Gerddi 1962-1986 (Gwasg Gee) – barddoniaeth.
Cyhoeddi Gair am Air – Ystyriaethau am Faterion Llenyddol (Gwasg Prifysgol Cymru) – ysgolheictod.
2002
Cyhoeddi Sawl Math o Gath (Gwasg Carreg Gwalch) – ysgrifau.
Cyhoeddi Breuddwyd Nos Ŵyl Ifan – cyfieithiad o ddrama William Shakespeare (CBAC).
2003
Cyhoeddi Yli – lluniau gan Ted Breeze Jones (Gwasg Dwyfor) – barddoniaeth.
Cyhoeddi Dafydd ap Gwilym: Y Gŵr sydd yn ei gerddi (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru) – ysgolheictod.
Cyhoeddi Stori Dafydd ap Gwilym (Y Lolfa) – ar gyfer plant.
2005
Cyhoeddi Apocalups Yfory (Cyhoeddiadau Barddas) - barddoniaeth.
Cyhoeddi Madog (Y Lolfa) – ar gyfer plant.
2006
Penodwyd yr Athro Gwyn Thomas yn Fardd Cenedlaethol Cymru.
Cyhoeddi Bywyd Bach - Cyfres y Cewri 30 (Gwasg Gwynedd) – hunangofiant.
Cyhoeddi Y Brenin Arthur (Y Lolfa) – ar gyfer plant.
2007
Cyhoeddi Teyrnas y Tywyllwch (Cyhoeddiadau Barddas) – barddoniaeth.
Cyhoeddi Blaenau Ffestiniog – lluniau gan Jeremy Moore (Gwasg Gomer) – barddoniaeth.
2008
Cyfnod Gwyn Thomas fel Bardd Cenedlaethol Cymru yn dod i ben.
Cyhoeddi Bronco (Cyhoeddiadau Barddas) – storïau byrion.
2009
Cyhoeddi Drychiolaethau (Gwasg y Bwthyn) – rhyddiaith.
Cyhoeddi Llywelyn ein Llyw Olaf (Y Lolfa) – ar gyfer plant.
2010
Cyhoeddi Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjioclet (Cyhoeddiadau Barddas) – barddoniaeth.
2011
Cyhoeddi Ani-feil-aidd, lluniau gan Jac Jones (Gwasg Gomer) – barddoniaeth i blant.
2012
Cyhoeddi Gair yn ei le – (Y Lolfa) ffotograffau gan Geraint Thomas – ysgrifau.
2013
Cyhoeddi Profiadau Inter Galactig (Cyhoeddiadau Barddas) – barddoniaeth.
2015
Llyfr Gwyn (Cyhoeddiadau Barddas) – ysgrifau hunangofiannol yn codi o’i waith llenyddol.
Cyhoeddi Hen Englynion: Diweddariadau (Cyhoeddiadau Barddas) – ysgolheictod / barddoniaeth.
2016
13 Ebrill – Bu farw. Claddwyd ym mynwent Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog.